Salm 103 Beibl.net
Cariad Duw
Salm Dafydd.
1 Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!
Y cwbl ohono i, bendithia'i enw sanctaidd!
2 Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!
Paid anghofio'r holl bethau caredig a wnaeth.
3 Mae wedi maddau dy fethiant i gyd,
ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat.
4 Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd,
ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd.
5 Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti,
nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto,
yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr!
6 Mae'r ARGLWYDD bob amser yn deg,
ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
7 Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,
a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
8 Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig;
mor amyneddgar ac anhygoel o hael!Croes
9 Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,
nac yn dal dig am byth.
10 Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,
na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.
11 Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,
mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
12 Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,
mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
13 Fel mae tad yn caru ei blant,
mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.
14 Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;
mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.
15 Mae bywyd dynol fel glaswellt --
mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;
16 pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;
ble roedd does dim sôn amdano.
17 Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchu
yn para am byth bythoedd!
Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant --
18 sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad,
ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.
19 Mae'r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd,
ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!
20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion! --
chi rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ddweud
sy'n gwrando ac yn ufudd iddo.
21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd! --
chi weision sy'n ei wasanaethu;
22 Bendithiwch yr ARGLWYDD, bopeth mae wedi ei greu! --
ym mhobman ble mae e'n teyrnasu.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!