Sussex Street Christian Centre
  • About Us / Amdanom
    • VISION & Mission
    • Meet the Leadership
    • Roof Project
    • SSCC History
    • Contact us
    • Eco Church (A ROCHA)
    • Documents
  • Reflections / adlewyrchiad
    • Examen
    • Exodus
    • Marks Gospel
    • Psalms >
      • 1 - 20
      • 21-40
      • 41-60
      • 61-80
      • 81 - 100
      • 101 - 120
      • 121 - 140
      • 141 - 150
    • Lectio Reflections >
      • Luke
      • Acts
  • Foodbank
  • Ministries / gweinidogaethau
    • Sermon Archive
    • Adults
    • GEN|Junior
    • GEN|Youth
    • Schools
    • Support
    • Prayer
    • Create >
      • Reflective Psalms
      • Videos
    • Online Bible
    • Bible.net
  • Giving / Rhoi

Salm 40 Beibl.net

Can O Foli
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth,
dyma fe'n troi ata i;
roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.
2 Cododd fi allan o'r pwll lleidiog,
a'r mwd trwchus.
Rhoddodd fy nhraed ar graig,
a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.
3 Roedd gen i gân newydd i'w chanu --
cân o fawl i Dduw!
Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,
ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD!

4 Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr!
Dydy e ddim yn troi am help at bobl
sy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd.
5 O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! --
gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.
Does neb yn gallu dy rwystro di!
Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill,
ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
6 Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau;
Mae hynny'n gwbl amlwg i mi!
Dim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn.
​

7-8 Felly dyma fi'n dweud,
“O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau --
fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.”
Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.
9 Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder!
Dw i wedi dal dim yn ôl!
Ti'n gwybod hynny, O ARGLWYDD.
10 Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun;
ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub!
Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di.

11 Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i.
Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.
12 Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman.
Mae fy mhechodau wedi fy nal i.
Maen nhw wedi fy nallu!
Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!
Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!
13 Plîs, ARGLWYDD, achub fi!
O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!
14 Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i
deimlo embaras a chywilydd.
Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi
droi yn ôl mewn cywilydd.
15 Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen i
gael eu cywilyddio a'u dinistrio.
16 Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!
Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,
“Mae'r ARGLWYDD mor fawr!”

17 Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn,
ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer.
Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.
O fy Nuw, paid oedi!
More contact information
Sussex Street Christian Centre, 
​15 Sussex Street,  Rhyl, 
Denbighshire  LL181SE


Ministry Email:    watsonrev.g@gmail.com
Foodbank Enquiries:    info@rhyl.foodbank.org.uk

Phone : 01745 342268
Monday  -  9:00 - 17:00
Tuesday  -  
9:00 - 17:00
Wednesday  -  9:00 - 17:00
Thursday  -  9:00 - 17:00
 Friday  -  9:00 - 17:00
Saturday  - Closed
Sunday  -  10:30 - 12:00
Sussex Street Christian Centre Charity# - 1171448
All Rights Reserved  Sussex Street Christian Centre, Rhyl© 2016
  • About Us / Amdanom
    • VISION & Mission
    • Meet the Leadership
    • Roof Project
    • SSCC History
    • Contact us
    • Eco Church (A ROCHA)
    • Documents
  • Reflections / adlewyrchiad
    • Examen
    • Exodus
    • Marks Gospel
    • Psalms >
      • 1 - 20
      • 21-40
      • 41-60
      • 61-80
      • 81 - 100
      • 101 - 120
      • 121 - 140
      • 141 - 150
    • Lectio Reflections >
      • Luke
      • Acts
  • Foodbank
  • Ministries / gweinidogaethau
    • Sermon Archive
    • Adults
    • GEN|Junior
    • GEN|Youth
    • Schools
    • Support
    • Prayer
    • Create >
      • Reflective Psalms
      • Videos
    • Online Bible
    • Bible.net
  • Giving / Rhoi