Salm 96 Beibl.net
Duw sy'n teyrnasu dros bopeth(1 Cronicl 16:23-33)
1 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD.
Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!
2 Canwch i'r ARGLWYDD! Canmolwch ei enw,
a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
3 Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;
wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
4 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli!
Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‘duwiau’ eraill i gyd.
5 Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,
ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!
6 Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;
mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml.
7 Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!
Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
8 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!
Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo!
9 Plygwch i addoli'r ARGLWYDD
sydd mor hardd yn ei gysegr!
Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!
10 Dwedwch ymysg y cenhedloedd,
“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”
Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.
Bydd e'n barnu'r byd yn deg.
11 Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!
Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!
12 Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!
Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen
13 o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dod --
mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!
Bydd yn barnu'r byd yn hollol deg,
a'r bobloedd i gyd ar sail beth sy'n wir.